Gwybodaeth Cymraeg 1

Gwybodaeth Cymraeg 2

Gwybodaeth Cymraeg 3

Gwybodaeth Cymraeg 4

Gwybodaeth Cymraeg 5

Gyda’r galw am ein hamrywogaethau’n fwy na’r cyflenwad rydym mewn sefyllfa gref i ehangu. Rydym wedi sicrhau
cyllid gan CDG Cymru ar gyfer ein prosiect newydd ‘Tatws Cynaliadwy Cymru‘ i’n helpu i ehangu ein cronfa dyfwyr, symleiddio ein systemau graddio a phacio a pharhau i hyrwyddo ein hamrywogaethau. Rydym yn chwilio am dyfwyr newydd ac yn cynnig pecyn cymorth cynhwysfawr i’ch helpu drwy’ch blynyddoedd cyntaf gyda ni, gan gynnwys:

  • Contractau rhannu risgiau gyda marchnadoedd a phrisiau gwarantedig
  • Cymorth technegol gan gynnwys: cyngor un i un; diwrnodau agored; lleoedd am ddim mewn cynadleddau a seminarau; a chopïau o’n Llawlyfr Cynhyrchu Hadyd
  • Mynediad sydd wedi’i hwyluso i beiriannau ac adnoddau eraill

Diddordeb?

  • Darllenwch fwy am fanteision cynhyrchu hadyd yma
  • Darllenwch fwy am ein hamrywogaethau yma
  • Lawrlwythwch ein Llawlyfr Cynhyrchu Hadyd yma
  • Ewch at dudalen ein blog am brofiadau tyfwyr, darnau barn, adroddiadau cynadleddau a mwy
  • Cysylltwch â’n swyddog maes Tony Little (01974 282813; 07969 541133)